Friday, 11 November 2011

Undeb Credyd Plaid Cymru

ADRODDIAD ARIANNOL 2009/10
Archwilwyr yr Undeb Credyd yw Williams Ross sydd wedi’u lleoli yng Ngwaelod y Garth.
Archwiliwyd ein cyfrifon ganddynt am dros 15 mlynedd, a dangosir eu harchwiliad mwyaf diweddar fod Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union mewn cyflwr ariannol cadarn.
Unwaith eto mae swm yr arian a fenthycir wedi codi i £191,197, ffigwr sydd heb ei gyrraedd gennym ers bodoli, fel y dangosir yn y graff. 
Llôg ar y benthyciadau yw prif incwm UCPCCU a chyda’r llôg ar fuddsoddiadau yng Nghymdeithas Adeiladu Abertawe a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, dyma’r unig incwm a sicrheir gan UCPCCU.  Yn anffodus, oherwydd y raddfa llôg isel gan y Cymdeithasau Adeiladu, mae’r incwm o’r ffynhonell yma wedi gostwng yn sylweddol.
Mae’r swm o gyfrannau aelodau (cynilion) a gedwir gan UCPCCU wedi cynyddu unwaith yn rhagor am y degfed flwyddyn yn olynol.  Ar hyn o bryd mae’r swm yn sefyll ar dros £300,000.  O ganlyniad i’n perfformiad rydym unwaith yn rhagor yn gallu cynnig llôg difidend o 2% ar gyfrifon gyda mynediad sydyn, sydd yn uwch na rhan fwyaf o Fanciau y Stryd Fawr a Chymdeithasau Adeiladu.
Newyddion da am 2010/11 yw bod y benthyciadau yn uwch eto ac yn llawer uwch na’n targed am y flwyddyn, a chyda 3 mis eto yn weddill o’r flwyddyn, fe all guro record y benthyciadau uchaf a wnaed yn 2004/05 a oedd yn £124,211.

Ebost/Gwefan
Gellir cael gafael ar pob ffurflen o’r wefan.  Bydd diweddiadarau cyson yn cael eu postio ar y wefan.   Hefyd mae dolenni diddorol ar gael i ACau a ASau  Plaid Cymru, Jill Evans ac amryw eraill. 
Cyfeiriad  yr ebost yw post@ucpccu.org neu ucpccul@btconnect.com a gellir cael mynediad i’r  wefan drwy www.ucpccu.org

No comments:

Post a Comment