Plaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu amddiffyn a chreu swyddi
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn amddiffyn a chreu swyddi yng Nghymru, wedi i ffigyrau swyddogol ddatgelu tystiolaeth bellach o’r argyfwng swydid yng Nghymru.
Amlygodd y blaid ffigyrau sydd yn dangos fod nifer y bobl sy’n chwilio am swyddi yng Nghymru yn awr yn fwy o 60,000 na nifer y swyddi gwag.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, fod y ffigyrau yn brawf pellach o’r argyfwng swyddi difrifol sydd wedi taro Cymru. Ond rhybuddiodd y gallai’r sefyllfa ddirywio ymhellach oni fyddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys.
Dengys y ffigyrau, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol, fod 76,210 o bobl yng Nghymru yn chwilio am waith, gyda dim ond 16,094 o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu mewn canolfannau gwaith. Mae’r sefyllfa yn arbennig o ddrwg ym Mlaenau Gwent lle dengys y ffigyrau fod 17 o bobl am bob swydd wag.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC;
"Gobeithio y bydd y ffigyrau brawychus hyn yn gwneud rhywbeth i brocio’r llywodraeth Lafur swrth hon i weithredu. Mae’r sefyllfa ar lawr gwlad i bobl sy’n chwilio am waith yn enbyd, gyda thrigain mil yn fwy o bobl yn chwilio am waith nac syd do swyddi’n cael eu hybsysebu. Mae’r ffaith fod cymaint o bobl yn cael eu gorfodi i fynd ar ôl yr un swyddi yn darlunio’n glir beth yw realiti’r argyfwng sy’n dyfnhau.
"Mae Llafur wedi gwastraffu’r rhan fwyaf o flwyddyn yn eistedd ar eu dwylo, a dengys y ffigyrau hyn yn glir na ellir caniatau i hyn barhau. Maent wedi gwrthod cynlluniau cadarnhaol a gynigiwyd gan Blaid Cymru i ddiogelu miloedd o swyddi yn ein busnesau bychain, ac i greu miloedd o swyddi trwy fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith. Y broblem yw y buasai’n well gan Lafur eistedd yn ôl a beio’r Toriaid am yr hyn sy’n digwydd."
No comments:
Post a Comment