Aelodaeth Plaid Cymru wedi codi 23%
27/01/2012
Toreth o aelodau newydd yn ymuno er mwyn chwarae eu rhan dros Gymru well
Mae Plaid Cymru wedi datgelu bod ei aelodaeth wedi cynyddu 23% dros y pedwar mis diwethaf. Wrth i enwebiadau gau am hanner nos neithiwr, dywedodd y Blaid bod yr ymgyrch aelodaeth wedi bod yn lwyddiant eithriadol ac yn argoeli’n dda i’r dyfodol wrth i’r Blaid barhau gyda’r broses o adnewyddu.
Ers mis Hydref mae’r Blaid wedi bod yn ymgymryd ag ymgyrch aelodaeth fwyaf erioed, yn annog pobol i fod yn rhan o Blaid Cymru yn yr amser tyngedfennol yma yn nhyfiant ein cenedl.
Defnyddiodd yr ymgyrch aelodaeth ddulliau traddodiadol a chyfryngau newydd i gyfathrebu neges y Blaid i ddegau o bobol dros y pedwar mis diwethaf- gan ddefnyddio hysbysebu ar-lein, facebook, negeseuon testun ynghyd a thechnegau arloesol i gyfathrebu gyda miloedd o aelodau potensial sydd yn rhannu ein gweledigaeth am Gymru well. Gyrrwyd llythyr i filoedd o aelodau, canghennau, etholaethau ar draws Cymru sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn cyrraedd ein cefnogwyr newydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Plaid Cymru:
“Ym mis Hydref mi lansiwyd yr ymgyrch aelodaeth fwyaf arloesol y mae’r Blaid wedi ymgymryd a hi erioed. Ers hynny rydym wedi gweld twf eithriadol yn ein ffigyrau aelodaeth wrth i bobol ymuno a’r Blaid a chwarae rhan yn symud Cymru ymlaen.
“Mae’n haelodaeth wedi cynyddu 23%. Rydym yn arbennig o falch nid yn unig i groesawu cyn aelodau yn nôl, ond croesawu aelodau newydd sydd wedi ymuno am y tro cyntaf.
Yn gwneud sylw am y rhesymau tu ôl i gynnydd yn yr aelodaeth, ychwanegodd Rhuanedd Richards;
“Mae’r adfywiad i’r Blaid yn ei hun wedi ysbrydoli nifer i ddod adref i’r Blaid. Mae’r ddadl ar ddyfodol Cymru yn bwysig i nifer o bobol ac felly wedi penderfynu mai dim ond wrth ymuno a Phlaid Cymru y gallwn gael y gorau ar gyfer ein cenedl a’i phobol. Mae’r broses arweinyddol gyffrous wedi rhoi ysgogiad ychwanegol i bobol ymuno.
“Mae’n glir bod ein haelodau hen a newydd wedi eu huno gan weledigaeth ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni, gyda’n gilydd ar gyfer pobl Cymru. Ar ddiwedd y dydd, nid oes unrhyw un arall yn mynd i roi Cymru’n gyntaf fel gwnaiff Plaid Cymru.
“Mae ein aelodau ar lawr gwlad yn ran annatod o Plaid Cymru. Nhw yw’r bobol sydd yn mynd i helpu i symud y Blaid ymlaen a chyfathrebu ein gweledigaeth bositif yn eu cymunedau ar draws Cymru. Rydym yn hynod falch o groesawu cymaint o aelodau newydd ac yn edrych ymlaen i gyd-weithio gyda hwy i helpu Cymru flodeuo a chyrraedd ei photensial dros y blynyddoedd nesaf.”
No comments:
Post a Comment